Archive for Tachwedd, 2006

Plannu Mefus

mefus1.JPGDwi’n gwybod bod o’n edrach fatha bod ‘na llawer o ddim yn digwydd yn fyma… Cyrhaeddodd planhigion mefus (Aromal) heddiw . Dydi’r ardd ddim wedi ffensio, felly dwi am ei drio nhw yn y ‘polytunnel’ fel arbrawf. Manylion technegol: tri hen ‘growbag’ a berfa o gompost.

Dwi’m yn meddwl bod hi’n iawn cymryd ffrwyth ar y flwyddyn gyntaf, enwedig os yn plannu mor hwyr â hyn, felly wedi plannu cwpl ychwanegol i fforsio.

Ar y ffordd adra o ddanfon Fiona i Dŷ Newydd bora ‘ma, galwais mewn i Palas Print a phrynu Geiriadur Gomer i’r Ifanc (am bris anhygoel  o rad!). Mae ‘na atodiad lliw efo planhigion, adar, coed, arweddion daearyddol ayyb… fydd rhai o’r rhain yn ddefnyddiol iawn gobeithio.

Sylwadau (1)

Rhagarweiniad

llysiaublog.JPG

Dyma sut mae’r patch llysiau yn edrach pan mae’r cwningod yn cyrraedd, a dwi’n gadael lonydd iddo fo fynd ei ffordd ei hun. Er ei fod yn hyfryd, dwi isio’i ‘adfer’ erbyn blwyddyn nesaf - yn codi ffens wythnos nesaf gobeithio. Ar yr un pryd, dwi’n dechra’r dyddiadur yma, fel dyddiadur, a hefyd rhywle i drafod tyfu llysiau a phlanhigion eraill, trafod sut i osgoi cwningod a ‘pests’ eraill, gloywi iaith (dysgu’r gair am ‘pest’), a darganfod yr enwau ar y pethau rwyf heb eu hetifeddu - yr adar, y blodau, y chwyn… (h.y. heb etifeddu’r enwau nid y chwyn!)

Sylwadau