Dwi’n gwybod bod o’n edrach fatha bod ‘na llawer o ddim yn digwydd yn fyma… Cyrhaeddodd planhigion mefus (Aromal) heddiw . Dydi’r ardd ddim wedi ffensio, felly dwi am ei drio nhw yn y ‘polytunnel’ fel arbrawf. Manylion technegol: tri hen ‘growbag’ a berfa o gompost.
Dwi’m yn meddwl bod hi’n iawn cymryd ffrwyth ar y flwyddyn gyntaf, enwedig os yn plannu mor hwyr â hyn, felly wedi plannu cwpl ychwanegol i fforsio.
Ar y ffordd adra o ddanfon Fiona i Dŷ Newydd bora ‘ma, galwais mewn i Palas Print a phrynu Geiriadur Gomer i’r Ifanc (am bris anhygoel o rad!). Mae ‘na atodiad lliw efo planhigion, adar, coed, arweddion daearyddol ayyb… fydd rhai o’r rhain yn ddefnyddiol iawn gobeithio.
rhwng said
Wel, nath rhain para bron wythnos tan i rwbath benderfynu eu codi o’r pridd … llygod, llygod mawr ? … Wedi ail blannu a holi gwmpas am syniadau.