Archive for Mawrth, 2007

Atgyfnerthu Patrôl Gwlithod

leghorn.jpg

Gadawodd Gwenan wythnos diwethaf (rŵan yn iâr fuarth ym myd arall), ac efo’r haf yn dod, ac felly’r malwod a’r gwlithod, mae’n bwysig bod yn barod. Wedi prynu dwy Leghorn ac un Sussex bora ma (yn disgwyl iddyn nhw roi eu henwau i ni).

Sylwadau

Gwanwyn (Bron) a Plannu Tatws

Petha’n dechra o ddifri rwan!

tatws.JPG

I fyny at heddiw: 18/2 Ffa (Green Windsor) yn y polytunnel, bron yn barod i fynd allan. Moron (Amstersam Forcing) a nionod gwanwyn dan cloche. 20/2 Tomatos yn y tŷ (Tumbler/Moneymaker/San Mar) i gyd wedi dod fyny. 8/3 Nionod (Turbo) yn yr ardd - efo lle i roi moron rhwng y rhesi er mwyn dychryn y pryfaid gobeithio. 13/3 beetroot yn yr ardd. 23/3 Mwy o nionod gwanwyn. Heddiw - Cennyn (Musselburg) yn y Polytunnel, a chwech res o datw newydd (Homeguard).

Bob bore Sul, dwi’n codi a mae ‘na 4 bag mawr o gachu ceffylau tu allan i’r tŷ. Ma hyn yn beth da! Diolch Wendy.

Sylwadau