Lot o chwynnu, llai o flogio
Mae ‘na lot wedi ei blannu ers canol Ebrill, a llawer o wersi wedi eu dysgu.
1. Dim llawer o bwynt defnyddio hadau hen!
2. Dim pwynt trio tyfu letys rhy gynnar tu allan achos fydda nhw’n chwerw.
3. Mae nionod gwanwyn yn cymryd oesoedd i ddod i fyny ond yn cyrraedd gydag amynedd.
4. Dim pwynt hau ‘sweetcorn’ yn rhy gynnar os oes ‘na ddim lle yn yr ardd i’w plannu. Gobeithio bydd hi’n ddim rhy hwyr i ddilyn y ffa. Dwi’n trio peidio gadael y tir yn wag i osgoi chwyn cymryd drosodd - gobeithio dilyn y tatw newydd (sy’n dod ymlaen yn dda ar ôl y glaw) efo cennin a moron maincrop.
Am fod ‘na ddim ‘backlog’ o gompost blwyddyn yma dwi’n arbrofi gyda’r tomatos uchod (Moneymaker). Bwydo rhai yn y pen draw gyda stwff inorganic, a’r rhai agosâ gyda dalan poethion wedi eu rhoi mewn dŵr ers tua phythefnos. Basil sydd rhwng y planhigion tomatos achos gen i gof o ddarllen eu bod yn gymdogion da. Hefyd wedi plannu tomatos ‘eirin’ mewn gro-bags.
Digwyddiad trist iawn. Dros y penwythnos lladdwyd dwy o’r ieir gan gi. Llwyddodd drydydd (Myfanwy) i dorri’n rhydd ond yn anffodus gyda damwain i’w choes. Mae’n gwella’n araf da ni’n meddwl.

