Pryd Cyntaf

prydcyntaf.jpg

Dim yn gwbod mod i’n licio ‘beetroot’ (betysen?) heb ei goginio tan heddiw.

Rhan fwyaf o betha’ wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, er bod ‘na chydig o olion pryfaid-du ar y ffa – plannu’n gynharach flwyddyn nesaf. Ma’r planhigion tomatos wedi eu bwydo efo danhadl poethion i’w gweld yn well na’r rhai efo bwyd ‘inorganic’ ond gwell disgwyl i weld a blasu’r ffrwythau.

2 Sylw »

  1. Mia said

    Do’n i ddim yn licio ‘beetroot’ tan wnes i drio gwin ‘beetroot’ :)

    Roedd ‘na lot o bryfaid-du ar y ffa eleni hyd yn oed heuad yr hydref. Doedd ‘na ddim pryfaid-du llynedd ar y ffa. Ella’ bod gaeafau cynnes yn helpu’r pryfaid?

    Mae’r planhigion tomatos yn edrych yn iawn. Maen nhw wedi eu bwydo efo ‘comfrey’.

  2. rhwng said

    Os dwi’n cofio, roedd gwin ‘beetroot’ yn felys iawn. Rhaid i mi wneud peth blwyddyn yma.
    Ia, dwi’n meddwl mai’r gaeaf cynnes sydd wedi dod a’r pryfaid yn gynt. Dwi wedi torri pen y planhigion rwan a ma petha wedi gwella.
    Lot o domatos gwyrdd yma, ond chydig wedi cael eu bwyta gan rwbath – na’i bostio llun no fuan.
    Diolch am y linc ar y blog!

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment