Archive for Gorffennaf, 2007

Yr amser iawn i dynnu ffa?

ffaffrenig.jpg

Gan fod ‘na ormod o blanhigion, nes i blannu rhai o’r rhain (Blue Lake) yn y polytunnel fer arbrawf - ma’ nhw mhell ymlaen o’r rhai tu allan. Maen nhw’n ymddangos bron bob nos syn gwneud hi’n anodd dal nhw cyn nhw fynd rhy fawr.

Yn plannu: mwy o letys, radis, ffa Ffrengig, bresych a gobeithio mwy o fetys, moron a phys os di’r glaw yn oedi.

Yn bwyta: tatws, y ffa ffrenig yma, y rhai arferol sydd yn y sosban hefyd, betys, tomatos (tumbler), letys.

Drwy alaw gwerin oedd rhywun yn chwara’ yma, dysgais yr enw Cymraeg am ‘fennel’, sef Ffaniglen, ond dwi dal ddim yn siŵr o hyn!

Sylwadau

Tomatos Gwyrdd

Moneymaker 020707

Disgwyl i’r tomatos Moneymaker troi’n goch. Ma’r plastig ar y polytunnel yn eithaf hen a falla bod hyn ddim yn helpu. Bron yn barod i dorri pennau’r planhigion - ar ôl 6 trysiad?

Mae rhywbeth yn bwyta ambell un fel y gwelir yma ( a dwi angen camera gwell!).

Tomato Pest 1

Sylwadau (3)