Tomatos Gwyrdd

Moneymaker 020707

Disgwyl i’r tomatos Moneymaker troi’n goch. Ma’r plastig ar y polytunnel yn eithaf hen a falla bod hyn ddim yn helpu. Bron yn barod i dorri pennau’r planhigion – ar ôl 6 trysiad?

Mae rhywbeth yn bwyta ambell un fel y gwelir yma ( a dwi angen camera gwell!).

Tomato Pest 1

3 Sylw »

  1. Mia said

    ‘Swn i’n dweud – malwod….. Maen nhw wedi bwyta lot o bethau – Basil, moron, ffa ffrengig, …..

    ‘Sgen i ddim mynedd – dw i isio tomatos cochion rwan! Tybed, pryd ges i domato coch cyntaf llynedd…..

  2. rhwng said

    Diolch Mia,
    Ia, falla malwod. Er dwi wedi bod yn lwcus efo gwlithod eleni (gobeithio na’i ddim difaru dweud hynna!). Ma’r cwt ieir yn reit agos i’r polytunnell a falla bod hyn wedi helpu. Yn ffodus, dim ond cwpl o domatos sydd wedi cael eu bwyta.
    Pan es i mewn bora ‘ma, oedd un o’r planhigion wedi gwywo, fel mae’n digwydd, yr un wrth y drws – falla bod y tywydd diweddar yn cael effaith drwg.
    Dwi ddim wedi tyfu dim ers tro, oherwydd cwningod, felly dwi’m yn cofio pryd dwi’n arfer cael tomatos coch. Eleni dwi wedi cael tua hanner dwsin o rai ‘tumbler’ ond mae ‘na tu 50 o rai gwyrdd yn disgwyl.

  3. Mia said

    Dwi wedi chwilio am y dyddiad. Llynedd, ges i domato cyntaf ar 11fed o Orffennaf – dim siawns eleni am hynny! Ro’n i’n cychwyn pethau yn hwyrach na’ llynedd (aethon ni ar wyliau yn ystod hanner tymor ym mis Chwefror), o leia’ mis yn hwyrach. Doedd mis Mehefin ddim yn rhy heulog chwaith.

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment