Blodau Rhiwbob?

blodynrhiwbob.jpgNewydd weithio allan bod ‘na ryw fath o linc automatic i Blogiadur sy’n gwneud i fi deimlo ‘chydig mwy nerfus wrth sgwennu! Diolch i bwy bynnag wnaeth greu’r linc beth bynnag – falla bydd o’n hwb i mi sgwennu’n fwy rheolaidd.

Mae’r riwbob (Victoria Organic) wnes i blannu llynedd yn edrych braidd yn od i mi. Dwi ‘rioed wedi ei dyfu o’r blaen, a dwi’m yn siŵr os dio fod i flodeuo fel hyn.

4 Sylw »

  1. Rhys said

    Dwi’n meddwl mai fi sydd ar fai am hynny, gan i mi flogio am y blog hwn sbel yn ôl – a wedyn wnest ti stopio blogio. Meddyliais mod i wedi rhoi’r kiss of death i’r blog, ond gobeithio mai oherwydd doedd dim yn tyfu yn yr ardd oedd y rheswm :-)

  2. rhwng said

    Diolch Rhys,
    Fi sydd wedi bod braidd yn ddiog, a rwan bod y nosweithiau yn goleuo, o ni’n trio ail-ddechra y blog, a phalu’r ardd, wrth gwrs! Sut ma petha’n mynd efo dy arddio di – lle wyt ti yn y byd?
    Does ddim llawer wedi bod yn tyfu heblau y rhiwbob yma a chydig o blanhigion mefus yn y polytunnel wanethh ddim cael eu ‘dwyn’. Ma nhw’n edrach reit iach, felly gobeithio gawn ni chydig flwyddyn yma. Wedi plannu nionod wsnos diwethaf a chydig o tomatos ayyb yn y tŷ.
    Wyt ti erioed wedi tyfu rhiwbob?
    Hwyl,
    Gorwel

  3. Rhys said

    Mae mam wedi cynnig planigyn riwbob mewn bwced i ni ers blwyddyn, ond dwi’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac yn dweud mod i am symud nôl i’r gogledd ac felly ddim eisiau plannu dim byd fyddai wedyn yn styc yma – ond nabod fi fyddai yma am sbel eto, felly dylwn ei blannu ta beth.

    Y wraig yw’r garddwr os dwi’n onest, mae wedi plannu tomotos, pupur coch a chilis, wedi ail blannu gwreiddiau o ambell genhinen gawsom gan fy nhad, ac mae nhw’n tyfu reit da.

    Cawsom andors o broblem gwlithod (slugs) llynedd, ac ni’n trio pob dim i’w stopio nhw, fel trapiau cwrw i’w boddi neu ’slug hotels’ (hanner graprefruit) i’w denu a’u lladd ond mae fel piso i’r gwynt. Y peth diwethaf i ni drio yw nemotoads [sll?] sy’n bryfetach bach bach chi’n gymysgu mewn dŵr a’i dywallt ar y ddaear. Mae rhain wedyn yn byw yn y pridd a lladd y gwlithof ac i fod yn ffordd ‘wyrdd’ o’u trin. Dwi ddim yn siwr os ydi o wedi bod yn llwyddiannus, ond yn waeth fyth, ni’n meddwl bod nhw hefyd yn effeithio ar bryfaid genwair sydd ddim yn beth da – ni gweld lot o bryfaid genwair byr iawn sy’n fyw (on mond jyst!). Hmm

    Cofio foi ambell lun i fyny pan ti’n cael cyfle fel ysgogiad i eraill :-)

  4. rhwng said

    Diolch Rhys,
    Ges i gyngor i dorri pen y planhigyn rhiwbob a ma petha’u weld yn dod ymlaen yn iawn rwan. Digon i fwyta mewn chydig o ddyddia gobeithio.
    Dwi wedi cael lot o broblemau efo gwlithod hefyd, ond mae’r ieir yn helpu. Un peth wnaeth weithio oedd mynd allan pob nos efo ‘torch’ a’u casglu nhw. Ar ôl gwneud hyn am 3 neu 4 noson oedd y niferoedd yn gostwng reit sydyn.
    Lluniau i ddilyn yn fuan (nid o wlithod) – diolch am yr ysgogiad!

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment