
O’r diwedd, wedi cael yr ieir allan o’r twnnel. Jyst gobeithio bod y ffens yma’n mynd i gadw’r llwynog allan – mae’n edrach digon cryf beth bynnag. Dio’m yn gweithio rhag adar, wrth gwrs … cerddais rownd gornel y tŷ pnawn ddoe a gweld bod yr ieir yn casglu tuag at gornel y ‘run’, yn cuddio rhag ffesant oedd wedi ffeindio’u bwyd. Mae ‘na flodau ar rhai o’r coed afalau – ‘chydig yn fuan falla efo’r tywydd poeth. Y broblem efo blodeuo’n fuan ydi bod ‘na beryg o’r tywydd newid yn sydyn a chwythu’r blodau’i ffwrdd cyn iddyn nhw beillio – mae’n edrach reit lonydd eto bora ‘ma.
Wedi eu hau ers tro diwethaf yn y sied:
Cennin: Musselburgh
Dil:
Teim: anodd i egino, felly arbrawf efo hau ar ben y compost.
Spinach (Mae’r geiriadur yn rhoi ‘pigoglys’ a ‘sbigoglys’ – dim syniad os ‘di rhain yn cael eu defnyddio!): Bordeaux ar gyfer torri fel salad.
Rhys said
Mae’n edrych fel dy fod ti’n meddwl buses gyda’r ffens yna!
Mae spigolgyls wedi hen ymsefydlu ei hun yn fy geirfa i.
rhwng said
Yndi – mae hi’n ddipyn o ffens! Gobeithio wneith hi weithio. Dwi’n trio bod ‘chydig fwy realistic efo’r tyfu eleni – canolbwyntio ar y twnnel. Be sy’n dueddol o ddigwydd ydi mod i’n tro gwneud gormod a wedyn yn digaloni pan mae petha’n mynd yn flêr oherwydd methu ffeindio amsar ayyb. Yda chi’n tyfu tomatos eleni?
Diolch am postio gyda llaw!
Hwyl,
Gorwel – sy’n trio bod yn fwy rheolaidd efo’r ardd a’r blog.