Archive for Ebrill, 2009

Plannu Tomatos a Blodau

plannutoms

Wedi plannu’r tomatos dros y penwythnos, a blodau (Tagetes, Nasturtiums, Marigold, Poaced-Egg Plants) wrth ddrysau’r twnnel.  Mae ‘na 5 math o domato yn y pridd ( Gardener’s Delight, Alisa Craig, Harbinger, San Marzano, Agro), a Tumbling Tom’ yn y bwcedi sy’n hongian ar y dde. O ni’n trio cael lliw er mwyn osgoi’r lle fod yn hollol iwtilitariaidd ond mae blodau’n bwysig er mwyn dennu cacynod, wrth gwrs (neu, gwenyn falla? Cacwn ydi ‘bee’ yn rhan yma o Sir Fôn beth bynnag, ond debyg mai ddim cacynod ydi’r lluosog!)

Dwi wedi bod yn ystyried cadw cacynod ers tro, ond ar ol gwylio ‘Who Killed the Honey Bee‘ ar BBC4 wsnos diwethaf, mae’n dechra teimlo fel dyletswydd. Ar ôl ‘chydig o syrffio dwi wedi darganfod bod ‘na grŵp o bobol yn cadw cacynod ar yr Ynys, felly dwi’m mynd i drio holi nhw am ba mor annodd ydi hyn.

Sylwadau (2)

Pigopigoglys

pigoglys

Ma’r dail ar y pigoglys yma’n dechra edrach fel bed dwi’n ei brynu o’r siop i fwyta fel salad. Dwi ‘rioed wedi tyfu y rhain o’r blaen a dwi’m yn siwr pryd i’w cymryd. Mae’r paced yn dweud i ddechra torri tua phythefnos/tair wsnos ar ôl iddyn nhw ddangos, ac yna disgwyl yddyn nhw ail dyfu. Mae’n annodd credu mai jyst tua 6 ddeilen sydd i fod i ddod o bob phlanhigyn – dim ond 8 nes i blannu! Falla na’i dorri hanner y planhigion a gweld be ddigwyddith i’r lleill.

topsoil

Ma’r twnnel yn barod ar gyfer y tomatos. Ar ben y pridd gwreiddiol, sy’n wael ond o leiaf yn rhoi dyfnder/draeniad, dwi wedi rhoi cardbord a tua 10cm o topsoil/compost – ma hyn yn ddyfnach na ‘growbag’ felly dylsa fod yn iawn. Dechra plannu nes ymlaen heddiw gobeithio.

Wedi hau:
Sweetcorn
Lamb’s lettuce
Mwy o fetys, roced, nionod gwanwyn, radis. Dwi wedi sylwi yn y gorffenol mod i weithia’n cael llwyddiant efo rhain  yn y gwanwyn ac yn anghofio hau mwy, felly eleni, dwi’n hau unwaith mae’r rhai sydd allan yn barod wedi  sefydlu.

Leave a Comment

Ddraenen Ddu

draenen-ddu-2

draenen-ddu

Mae’r patch llysiau yn segur ar hyn o’r bryd tra dwi’n sortio’r twnnel, er dwi’n gobeithio cael un rhes o welyau yn barod tu allan erbyn plannu cennin a bresych. Oeddem ni’n trio planio cael ‘chydig fwy o liw i mewn i’r ardd dros y penwythnos, ond bydd hi’n annodd creu unrhyw beth gwell na’r ddraenen ddu sy’n blodeuo ar hyn o’r bryd.

Wedi hau:
Ciwcymbr: Silor F1 yn y tŷ. Mae’r rhai sy’n tyfu’n barod yn dechra symud allan.
Tomatos: Tumbling Tom yn y tŷ. Mae’r tomatos eraill i gyd yn y twnnel rwan efo ‘fleece’ drostynt gyda’r nos.
Ffa Ffrengig: Blue Lake a Neckar Queen

Sylwadau (4)

Byw yn y Twnnel

ffesant2

Roedd rhywun yn son ddoe bod ffesantod yn partneru am oes.

Cymerodd dros dair wythnos i’r cennin egino – bydd rhaid i mi gofio hyn blwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o’r petha’ a gafodd eu hau yn dod ymlaen yn dda – bydda ni’n bwyta radis cyn diwedd y mis efo dipyn o lwc. Mae’n amsar symud y tomatos ymlaen i botiau ‘chydig mwy a gorffan y gwely yn y twnnel. Cefais ddwy dunnell o bridd/compost ddoe o Dandys – o’dd fewnforio pridd yn teimlo ‘chydig yn od, ond dwi’n meddwl bysa wedi cymryd tua deng mlynedd i greu digon o gompost i lenwi’r gwelyau fel arall. Mae symud hwn i gyd i mewn i’r twnnel yn mynd i gadw fi’n brysur.

Mae’n dda gweld bod ‘Byw yn yr Ardd’ wedi cael ail gyfres. Mae ‘na  wefan newydd hefyd – diolch am y ‘linc’!

Leave a Comment

Jyst cwpl o lunia

letysabetys

tomsallan

O’dd y tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ felly dwi di symud nhw i’r twnnel bora ‘ma i ddechra arfer gyda’r hinsawdd newydd. Debyg bod hi’n gynhesach yn y twnnel nac yn y tŷ yn y dydd, ond bydd rhaid i mi gofio dod a nhw i mewn bob nos am ‘chydig o ddyddia achos mae’n gallu mynd i lawr at tua 5C. Dwi’n meddwl bod hi’n eithaf anodd amseru’r tomatos yn iawn – gobeithio bod y rhain ddim yn rhy gynnar.

Wedi hau ddoe:
Courgette: Zucchini yn y tŷ
Ysgewyll: Seven Hills a Nautic yn y sied

Leave a Comment