

Mae’r patch llysiau yn segur ar hyn o’r bryd tra dwi’n sortio’r twnnel, er dwi’n gobeithio cael un rhes o welyau yn barod tu allan erbyn plannu cennin a bresych. Oeddem ni’n trio planio cael ‘chydig fwy o liw i mewn i’r ardd dros y penwythnos, ond bydd hi’n annodd creu unrhyw beth gwell na’r ddraenen ddu sy’n blodeuo ar hyn o’r bryd.
Wedi hau:
Ciwcymbr: Silor F1 yn y tŷ. Mae’r rhai sy’n tyfu’n barod yn dechra symud allan.
Tomatos: Tumbling Tom yn y tŷ. Mae’r tomatos eraill i gyd yn y twnnel rwan efo ‘fleece’ drostynt gyda’r nos.
Ffa Ffrengig: Blue Lake a Neckar Queen
bethangwanas said
Rhywun wedi deud wrthai bod na hen goel bod sioe dda o flodau ar y ddraenen ddu yn golygu haf poeth, braf. Ydi o’n wir, tybed?
Gyda llaw, unrhyw dips be i neud efo gwrych rosmari sydd wedi mynd yn hen a’r dail yn mynd yn frown a diolwg? Ei thynnu allan a phlannu un newydd, mae’n debyg, ia?
rhwng said
Diolch Bethan – o ni ddim wedi clywed honna am y ddraenen ddu. Gobeithio bod hi’n wir ar ôl haf llynedd. Falla gawn ni domatos coch eleni!
Dwi di sylwi bod rosmari’n medru mynd yn ’stragelly’ reit fuan – dwi’n cymryd mai fi sydd wedi bod yn ddiog efo prwnio! Dwi’n meddwl bod brown hefyd yn medru bod yn arwydd o ormod o ddŵr yn y tir – falla bod isio plannu rhai newydd mewn lle ‘chydig mwy sych. Os oes ‘na ddim clefyd, mae’n hawdd cymryd ‘cuttings’ wrth gwrs.
bethangwanas said
Ond dydi fy cuttings (‘toriadau’ mae’n siwr) i byth yn gweithio am ryw reswm! Falle bod y pridd yn rhy wlyb gen i efo’r rheiny hefyd. Hm. Mi wnai drio eto. Ond dwi wedi prynu un bach newydd o le garddio beth bynnag – heb ei blannu eto.
Dim byd gwell na rosmari efo cig oen!
Gorwel said
Dyma sy’n gweithio i mi efo cuttings Rosmari:
1. Torri tua 6″ o frigyn eithaf iach.
2. Torri tua 2″ o’r top.
3. Tynnu’r dail o’r 2″ gwaelod fel bod y cutting yn medru gwreiddio o’r creithiau.
4. Eu rhoi yn y twnnel mewn potiau.
Dwi rioed wedi defnyddio rooting powder na ddim byd felly.
Debyg byddai’n gwneud rhai no fuan – na’i gadw rhai i chdi os ti isio. Dwi’m yn siwr os mai rwan ydi’r amsar iawn! Deby dylswn i ddechra darlllan mwy am y petha ma!
Hwyl
O.N. Rosemari yn gweithio’n dda mewn cawl llysiau os ti ddim yn bwyta cig oen. Mae werth i dyfu am yr hogla hefyd, wrth gwrs.