Plannu Tomatos a Blodau

plannutoms

Wedi plannu’r tomatos dros y penwythnos, a blodau (Tagetes, Nasturtiums, Marigold, Poaced-Egg Plants) wrth ddrysau’r twnnel.  Mae ‘na 5 math o domato yn y pridd ( Gardener’s Delight, Alisa Craig, Harbinger, San Marzano, Agro), a Tumbling Tom’ yn y bwcedi sy’n hongian ar y dde. O ni’n trio cael lliw er mwyn osgoi’r lle fod yn hollol iwtilitariaidd ond mae blodau’n bwysig er mwyn dennu cacynod, wrth gwrs (neu, gwenyn falla? Cacwn ydi ‘bee’ yn rhan yma o Sir Fôn beth bynnag, ond debyg mai ddim cacynod ydi’r lluosog!)

Dwi wedi bod yn ystyried cadw cacynod ers tro, ond ar ol gwylio ‘Who Killed the Honey Bee‘ ar BBC4 wsnos diwethaf, mae’n dechra teimlo fel dyletswydd. Ar ôl ‘chydig o syrffio dwi wedi darganfod bod ‘na grŵp o bobol yn cadw cacynod ar yr Ynys, felly dwi’m mynd i drio holi nhw am ba mor annodd ydi hyn.

2 Sylw »

  1. M. said

    Wow. Mae Robin isio polytwnnel. Pa mor fawr ydy’r twnnel?
    Dw i’n tyfu sawl math o domato (y rhan fwya ydy hen fath o “Heritage Seed Library”). Dydy Mam ddim yn dallu “sow thinly” – roedd ‘na 20+ tomato mewn pot bach (3″) !!

    • Gorwel said

      Sut Hwyl,
      Ma’r twnnel yn 40′x14′. Dwi wedi gwneud llwybrau reit lydan fel fedri di weld, ond dwi’n meddwl bod o’n helpu yn y pen draw. Mi wnai bostio llun o sut mae petha wedi datblygu yn fuan. Dewch draw am dro os da weld.
      Ma’r tomatos i weld yn dod ymlaen yn iawn – dwi’m yn siwr os dwi fod i dynnu ’sideshoots’ ffwrdd o Gardener’s Delight.
      Dwi’m yn dallt ’sow thinly’ efo blodau achos dwi ddim heb dyfu llawer o’r blaen – mae gen i tua 500 o lobelia mewn 1/2 tray!
      Hwyl,
      Gorwel
      (ON. Wedi danfon ebost i R. Gobeithio bod y cyfeiriad yn iawn.)

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment