Archive for Mehefin, 2009

Chwech Trys neu Saith?

MarigoldToms

Ma’r tomatos ‘ma wedi cyrraedd tua 6 trys erbyn hyn – debyg bod isio torri eu pennau. Er mod i’n rhoi dŵr yn rheolaidd bob dydd mae’r dail wedi cyrlio ‘chydig ar ran fwyaf o’r planhigion – mae’r llyfrau’n dweud fall bod hyn yn  iawn – mae’r ffrwyth ar yr Agro yma i weld yn iawn, beth bynnag.

Agro

Leave a Comment

Nabod y coed

Castanwydden

Pan agorais y lleni bora ‘ma wnaeth maint y goeden yma nharo i. Od fel dwi ddim yn sylwi petha sy’n tyfu’n araf. Pob tro dwi’n sylwi ar y goeden yma dwi’n cael traffarth cofio os mai’r un felys yntau’r un cnau ceffylau ydi hi. Mae sgwennu petha i lawr o fod i helpu’r cof, felly: castanwydden felys ydi hon, ac mae’n cymryd llai o waith na’r tomatos.

Leave a Comment

Dail Mefus

Mefus Gwyrdd

Ma’r planhigion mefus yma (Aromel) yn dod ymlaen yn dda iawn, ond, does dim llawer o ffrwyth eto! Wnes i baratoi’r gwelyau yma’n dda – tail wedi ei gompostio – a dwi’n dechra meddwl ella bod ‘na ormod o nitrogen. Ta waeth, dylsa nhw fod yn blanhigion cryf erbyn blwyddyn nesaf.

Leave a Comment