What is this blog?

Dyddiadur, trafod tyfu llysiau a phlanhigion eraill, osgoi cwningod a ‘pests’ eraill, gloywi iaith – er engrhaifft dysgu’r gair am ‘pest’ – a darganfod yr enwau ar y pethau rwyf heb eu hetifeddu – yr adar, y blodau, y chwyn …h.y. heb etifeddu’r enwau ydw i, nid y chwyn.

This is a blog is a kind of calendar of my gardening activities in South West Ynys Môn.  I blog in Welsh, but feel free to comment in Welsh, English (o Español básica).


4 Sylw »

  1. Rhys said

    Syniad gwych am flog – methu credu ei fod yn bodoli ers Tachwedd 2006 a dwi heb ei ddarganfod!

    Beth am ofyn as caiff ei gynnwys ar http://www.blogiadur.com

  2. rhwng said

    Diolch Rhys
    Dwi di bod braidd yn araf ‘hysbysebu’ oherwydd o ni’n trio disgwyl gweld os faswn i’n llwyddo i bostio’n rheolaidd. Rwan bod na rywun yn darllan, na’i drio bod ychydig mwy cyson!
    Diolch am y linc i ‘blogiadur’ hefyd.
    Hwyl
    Gorwel

  3. Rhys said

    Helo Gorwel,

    Diolch am yr e-bost, a na tydw i ddim yn cael fy hysbysu pan mae rhywun yn ymateb i sylw dwi’n adael ar flog rhywun arall (sy’n biti rili).

    Er gan dy fod ti’n defnyddio WordPress, mae modd i fi danysgrifio i dy ‘Comments RSS’ o dan y penawd ‘Meta’ ar y golofn dde, sy’n golygu pob tro mae unrhywun yn gadael sylw ar dy flog, dwi’n dod i wybod am hynny trwy fy rhestr bloglines (sgrinlun / esboniad o RSS)

    Dal ati gyda’r blogio. Beth am adael sylw ar ambell flog Cymraeg ti’n meddwl byddai â diddordeb yng nghynwys un ti? O’r ychydig dwi’n wybod am awduron y gwahanol flogiau Cymraeg, dychmygaf y byddai
    Rwdwls Nwdls
    Morfablog
    Blog Mali
    Blog heb enw
    i gyd efo diddordeb gan eu bod yn arddwyr eu hunain.

    Dyma beth dyfo’n ni y llynedd:
    http://www.flickr.com/photos/benbore/tags/cnwd2006

  4. rhwng said

    Diolch am esbonio peth o’r technoleg yma i mi.

    Diolch am y manylion ynglŷn â’r blogs eraill hefyd – na’i gael golwg dros y penwythnos.

    Ma’r pupur yn edrach yn edrych yn grêt – dwi wedi tyfy llwyth o rai gwyrdd cwpl o weithiau ond rioed wedi llwyddo cael nhw droi’n goch. Wyt ti i’r de o Ynys Mȏn – fall bod hyn yn helpu?

    Gorwel

RSS feed for comments on this post · URI Nôlnodi

Leave a Comment