Archive for Cyflwr tir

Dail Mefus

Mefus Gwyrdd

Ma’r planhigion mefus yma (Aromel) yn dod ymlaen yn dda iawn, ond, does dim llawer o ffrwyth eto! Wnes i baratoi’r gwelyau yma’n dda – tail wedi ei gompostio – a dwi’n dechra meddwl ella bod ‘na ormod o nitrogen. Ta waeth, dylsa nhw fod yn blanhigion cryf erbyn blwyddyn nesaf.

Leave a Comment

Byw yn y Twnnel

ffesant2

Roedd rhywun yn son ddoe bod ffesantod yn partneru am oes.

Cymerodd dros dair wythnos i’r cennin egino – bydd rhaid i mi gofio hyn blwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o’r petha’ a gafodd eu hau yn dod ymlaen yn dda – bydda ni’n bwyta radis cyn diwedd y mis efo dipyn o lwc. Mae’n amsar symud y tomatos ymlaen i botiau ‘chydig mwy a gorffan y gwely yn y twnnel. Cefais ddwy dunnell o bridd/compost ddoe o Dandys – o’dd fewnforio pridd yn teimlo ‘chydig yn od, ond dwi’n meddwl bysa wedi cymryd tua deng mlynedd i greu digon o gompost i lenwi’r gwelyau fel arall. Mae symud hwn i gyd i mewn i’r twnnel yn mynd i gadw fi’n brysur.

Mae’n dda gweld bod ‘Byw yn yr Ardd’ wedi cael ail gyfres. Mae ‘na  wefan newydd hefyd – diolch am y ‘linc’!

Leave a Comment

Garddio efo caib

gwelytwnnel

Dwi’n meddwl mai Monty Don ddwedodd rwbath fel ‘ar ôl cymryd mor hir i baratoi’r gwely ‘ma, mi wnei di gofio peidio cerdded arno’! Cymerodd cwpl o oriau i mi wneud tua 2 fedr o’r gwely yn y twnnel, a llenwais y ferfa 4 gwaith efo cerrig! Ma’r tir yn hollol sych, heb lyngyr, ond i weld heb chwyn hefyd. Jyst trio mynd i lawr tua 20 cm ydw’i, cyn penderfynu be i roi ar ben y pridd – ‘topsoil’ neu gompost – i ddod a fo at lefel y llwybrau llechi/llwch. Mae’r tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ, felly dwi angen gwthio ‘mlaen efo hwn. Er bod fy mherthynas efo technoleg yn un eithaf cymhleth, a dwi felly wedi trio osgoi gormod ohono yn yr ardd, efo maint y gwely, a’r nifer o domatos, dwi wedi dechra edrych mewn i gael rhyw fath o sustem ddŵr automatic hefyd.

Rhan fwyaf o bethau wedi egino ac yn dod ymlaen yn dda, heblaw’r cennin (14/3). Dwi’m yn cofio pa mor hir mae cennin yn cymryd – o’dd yr hadau reit hen, felly falla dylsw ni ail hau.

Wedi hau yn y twnnel ers tro diwethaf:
Radis: Scarlet Globe
Rocet (Roced? Dwi’m yn meddwl!)
Nionod Gwanwyn (Debyg bod ‘na enw cynhenid am rain hefyd!)
Basil: mewn tray yn y tŷ

Leave a Comment