Archive for Hau

Jyst cwpl o lunia

letysabetys

tomsallan

O’dd y tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ felly dwi di symud nhw i’r twnnel bora ‘ma i ddechra arfer gyda’r hinsawdd newydd. Debyg bod hi’n gynhesach yn y twnnel nac yn y tŷ yn y dydd, ond bydd rhaid i mi gofio dod a nhw i mewn bob nos am ‘chydig o ddyddia achos mae’n gallu mynd i lawr at tua 5C. Dwi’n meddwl bod hi’n eithaf anodd amseru’r tomatos yn iawn – gobeithio bod y rhain ddim yn rhy gynnar.

Wedi hau ddoe:
Courgette: Zucchini yn y tŷ
Ysgewyll: Seven Hills a Nautic yn y sied

Leave a Comment

Garddio efo caib

gwelytwnnel

Dwi’n meddwl mai Monty Don ddwedodd rwbath fel ‘ar ôl cymryd mor hir i baratoi’r gwely ‘ma, mi wnei di gofio peidio cerdded arno’! Cymerodd cwpl o oriau i mi wneud tua 2 fedr o’r gwely yn y twnnel, a llenwais y ferfa 4 gwaith efo cerrig! Ma’r tir yn hollol sych, heb lyngyr, ond i weld heb chwyn hefyd. Jyst trio mynd i lawr tua 20 cm ydw’i, cyn penderfynu be i roi ar ben y pridd – ‘topsoil’ neu gompost – i ddod a fo at lefel y llwybrau llechi/llwch. Mae’r tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ, felly dwi angen gwthio ‘mlaen efo hwn. Er bod fy mherthynas efo technoleg yn un eithaf cymhleth, a dwi felly wedi trio osgoi gormod ohono yn yr ardd, efo maint y gwely, a’r nifer o domatos, dwi wedi dechra edrych mewn i gael rhyw fath o sustem ddŵr automatic hefyd.

Rhan fwyaf o bethau wedi egino ac yn dod ymlaen yn dda, heblaw’r cennin (14/3). Dwi’m yn cofio pa mor hir mae cennin yn cymryd – o’dd yr hadau reit hen, felly falla dylsw ni ail hau.

Wedi hau yn y twnnel ers tro diwethaf:
Radis: Scarlet Globe
Rocet (Roced? Dwi’m yn meddwl!)
Nionod Gwanwyn (Debyg bod ‘na enw cynhenid am rain hefyd!)
Basil: mewn tray yn y tŷ

Leave a Comment

Llanast

llanast

Yn trio cael ‘chydig o drefn ar y twnnel, dechra creu ‘beds’, er bod yr ieir dal yna! Dwi’m yn siŵr os di’r maeth maen nhw’n ei adael yn y tir yn gwneud i fyny am y llyngyr sy’n cael eu bwyta. Y rhes ar y dde ydi’r mefus wnes i blannu llynedd sydd bron wedi eu dinistrio – mae ‘na chydig o wyrddni yn dod i’r golwg fell gobeithio cawn nhw siawns no fuan efo’r ffensio’n digwydd dros y pythefnos nesaf.

Wedi ei hau ers tro diwethaf:
Ciwcymber Silor – yn y tŷ. (Dwi wedi trio dilyn canllawia Salt yn Growing Under Plastic – mae’n awgrymu peidio llenwi’r pot i ddechra ond ychwanegu compost ar ôl i’r planhigyn dyfu. Dwi’n cymryd mai ffordd o gael gwreiddiau cryf ydi hyn.)
Letys: Catalogna, Salad Bowl, Bughatti, Lobjoits Green CosOaklef.
Betys: Boltardy (mewn potiau yn y sied).
Pys: Kelvedon Wonder (ditto.).

Leave a Comment