Archive for Ieir
Dechra palu
O’r diwedd mae petha wedi sychu! Wedi dechrau arferiad o droi ychydig o hwn am 15 munud yn gynnar yn y bore. Efo dipyn o lwc, ychydig o help gan yr ieir, a llai o law, fydd yna ddigon yn barod tua dechrau mawrth er mwyn plannu. Mae ail ran cwrs gloywi yn dechrau heddiw hefyd - felly amser da i fod mwy cyson efo cadw’r blog yma i fynd.

