Archive for Mefus

Dail Mefus

Mefus Gwyrdd

Ma’r planhigion mefus yma (Aromel) yn dod ymlaen yn dda iawn, ond, does dim llawer o ffrwyth eto! Wnes i baratoi’r gwelyau yma’n dda – tail wedi ei gompostio – a dwi’n dechra meddwl ella bod ‘na ormod o nitrogen. Ta waeth, dylsa nhw fod yn blanhigion cryf erbyn blwyddyn nesaf.

Leave a Comment

Llanast

llanast

Yn trio cael ‘chydig o drefn ar y twnnel, dechra creu ‘beds’, er bod yr ieir dal yna! Dwi’m yn siŵr os di’r maeth maen nhw’n ei adael yn y tir yn gwneud i fyny am y llyngyr sy’n cael eu bwyta. Y rhes ar y dde ydi’r mefus wnes i blannu llynedd sydd bron wedi eu dinistrio – mae ‘na chydig o wyrddni yn dod i’r golwg fell gobeithio cawn nhw siawns no fuan efo’r ffensio’n digwydd dros y pythefnos nesaf.

Wedi ei hau ers tro diwethaf:
Ciwcymber Silor – yn y tŷ. (Dwi wedi trio dilyn canllawia Salt yn Growing Under Plastic – mae’n awgrymu peidio llenwi’r pot i ddechra ond ychwanegu compost ar ôl i’r planhigyn dyfu. Dwi’n cymryd mai ffordd o gael gwreiddiau cryf ydi hyn.)
Letys: Catalogna, Salad Bowl, Bughatti, Lobjoits Green CosOaklef.
Betys: Boltardy (mewn potiau yn y sied).
Pys: Kelvedon Wonder (ditto.).

Leave a Comment

Mafon (cynnar) a’r twnnel

Mae’r mafon yma yn barod i’w casglu (Autumn Bliss). Dydi nhw ddim i fod i ffrwytho tan yr Hydref. Debyg bod y gwanwyn poeth a’r glaw dros yr wythnosau diwethaf wedi eu drysu falla? Dwi heb fod yn garddio digon hir i wybod os mai jyst rwbath ‘one-off’ ydi hwn yntau arwydd arall o ‘global warming’.

Dwi wedi cael cychwyn araf eleni achos mod i wedi bod yn defnyddio amsar sbâr i gyd i baratoi a rhoi croen newydd ar y twnnel. Mae’r tomatos i gyd mewn potiau – dwi heb drio hyn o’r blaen. Heb osod y drysau ar y twnnel eto felly mae’r ieir (Melys yn y llun) yn crwydro mewn – yn edrych ar ôl y gwlithod ond yn bwyta peth o’r letys!

Leave a Comment

Plannu Mefus

mefus1.JPGDwi’n gwybod bod o’n edrach fatha bod ‘na llawer o ddim yn digwydd yn fyma… Cyrhaeddodd planhigion mefus (Aromal) heddiw . Dydi’r ardd ddim wedi ffensio, felly dwi am ei drio nhw yn y ‘polytunnel’ fel arbrawf. Manylion technegol: tri hen ‘growbag’ a berfa o gompost.

Dwi’m yn meddwl bod hi’n iawn cymryd ffrwyth ar y flwyddyn gyntaf, enwedig os yn plannu mor hwyr â hyn, felly wedi plannu cwpl ychwanegol i fforsio.

Ar y ffordd adra o ddanfon Fiona i Dŷ Newydd bora ‘ma, galwais mewn i Palas Print a phrynu Geiriadur Gomer i’r Ifanc (am bris anhygoel  o rad!). Mae ‘na atodiad lliw efo planhigion, adar, coed, arweddion daearyddol ayyb… fydd rhai o’r rhain yn ddefnyddiol iawn gobeithio.

Sylwadau (1)