Archive for Tomatos
Mehefin 24, 2009 at 7:42 yb
· Filed under Tomatos, Twnnel

Ma’r tomatos ‘ma wedi cyrraedd tua 6 trys erbyn hyn – debyg bod isio torri eu pennau. Er mod i’n rhoi dŵr yn rheolaidd bob dydd mae’r dail wedi cyrlio ‘chydig ar ran fwyaf o’r planhigion – mae’r llyfrau’n dweud fall bod hyn yn iawn – mae’r ffrwyth ar yr Agro yma i weld yn iawn, beth bynnag.

Permalink
Mai 31, 2009 at 7:45 yb
· Filed under Tomatos, Twnnel

Ma’r tomatos ‘ma i weld yn dod ymlaen yn iawn er dwi’n gorfod bod yn ofalus efo rhoi dŵr yn y tywydd yma. W edi rhoi sustem awtomatig mewn o’r diwedd sydd i’w weld ar hyd ganol y gwely. Falch mod i wedi prynnu ‘crop-bar’ ychwanegol i’r twnnel i dyfu petha mewn basgedi hefyd – gwneud y gorau o’r gofod. Nid cymylau sydd tu ôl i’r pigoglys yma – cysgod coed ar groen y twnnel.

Permalink
Ebrill 27, 2009 at 8:26 yb
· Filed under Blodau, Cacwn, Tomatos

Wedi plannu’r tomatos dros y penwythnos, a blodau (Tagetes, Nasturtiums, Marigold, Poaced-Egg Plants) wrth ddrysau’r twnnel. Mae ‘na 5 math o domato yn y pridd ( Gardener’s Delight, Alisa Craig, Harbinger, San Marzano, Agro), a Tumbling Tom’ yn y bwcedi sy’n hongian ar y dde. O ni’n trio cael lliw er mwyn osgoi’r lle fod yn hollol iwtilitariaidd ond mae blodau’n bwysig er mwyn dennu cacynod, wrth gwrs (neu, gwenyn falla? Cacwn ydi ‘bee’ yn rhan yma o Sir Fôn beth bynnag, ond debyg mai ddim cacynod ydi’r lluosog!)
Dwi wedi bod yn ystyried cadw cacynod ers tro, ond ar ol gwylio ‘Who Killed the Honey Bee‘ ar BBC4 wsnos diwethaf, mae’n dechra teimlo fel dyletswydd. Ar ôl ‘chydig o syrffio dwi wedi darganfod bod ‘na grŵp o bobol yn cadw cacynod ar yr Ynys, felly dwi’m mynd i drio holi nhw am ba mor annodd ydi hyn.
Permalink
Ebrill 9, 2009 at 7:27 yb
· Filed under Cyflwr tir, Tomatos, Twnnel

Roedd rhywun yn son ddoe bod ffesantod yn partneru am oes.
Cymerodd dros dair wythnos i’r cennin egino – bydd rhaid i mi gofio hyn blwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o’r petha’ a gafodd eu hau yn dod ymlaen yn dda – bydda ni’n bwyta radis cyn diwedd y mis efo dipyn o lwc. Mae’n amsar symud y tomatos ymlaen i botiau ‘chydig mwy a gorffan y gwely yn y twnnel. Cefais ddwy dunnell o bridd/compost ddoe o Dandys – o’dd fewnforio pridd yn teimlo ‘chydig yn od, ond dwi’n meddwl bysa wedi cymryd tua deng mlynedd i greu digon o gompost i lenwi’r gwelyau fel arall. Mae symud hwn i gyd i mewn i’r twnnel yn mynd i gadw fi’n brysur.
Mae’n dda gweld bod ‘Byw yn yr Ardd’ wedi cael ail gyfres. Mae ‘na wefan newydd hefyd – diolch am y ‘linc’!
Permalink
Ebrill 1, 2009 at 8:32 yb
· Filed under Hau, Tomatos, Twnnel


O’dd y tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ felly dwi di symud nhw i’r twnnel bora ‘ma i ddechra arfer gyda’r hinsawdd newydd. Debyg bod hi’n gynhesach yn y twnnel nac yn y tŷ yn y dydd, ond bydd rhaid i mi gofio dod a nhw i mewn bob nos am ‘chydig o ddyddia achos mae’n gallu mynd i lawr at tua 5C. Dwi’n meddwl bod hi’n eithaf anodd amseru’r tomatos yn iawn – gobeithio bod y rhain ddim yn rhy gynnar.
Wedi hau ddoe:
Courgette: Zucchini yn y tŷ
Ysgewyll: Seven Hills a Nautic yn y sied
Permalink
Gorffennaf 5, 2008 at 10:12 yb
· Filed under Ieir, Mefus, Tomatos, Twnnel ·Tagged Twnnel

Mae’r mafon yma yn barod i’w casglu (Autumn Bliss). Dydi nhw ddim i fod i ffrwytho tan yr Hydref. Debyg bod y gwanwyn poeth a’r glaw dros yr wythnosau diwethaf wedi eu drysu falla? Dwi heb fod yn garddio digon hir i wybod os mai jyst rwbath ‘one-off’ ydi hwn yntau arwydd arall o ‘global warming’.
Dwi wedi cael cychwyn araf eleni achos mod i wedi bod yn defnyddio amsar sbâr i gyd i baratoi a rhoi croen newydd ar y twnnel. Mae’r tomatos i gyd mewn potiau – dwi heb drio hyn o’r blaen. Heb osod y drysau ar y twnnel eto felly mae’r ieir (Melys yn y llun) yn crwydro mewn – yn edrych ar ôl y gwlithod ond yn bwyta peth o’r letys!
Permalink
Gorffennaf 2, 2007 at 1:22 yh
· Filed under Pests a chlefydau, Tomatos

Disgwyl i’r tomatos Moneymaker troi’n goch. Ma’r plastig ar y polytunnel yn eithaf hen a falla bod hyn ddim yn helpu. Bron yn barod i dorri pennau’r planhigion – ar ôl 6 trysiad?
Mae rhywbeth yn bwyta ambell un fel y gwelir yma ( a dwi angen camera gwell!).

Permalink