Archive for Twnnel

Chwech Trys neu Saith?

MarigoldToms

Ma’r tomatos ‘ma wedi cyrraedd tua 6 trys erbyn hyn – debyg bod isio torri eu pennau. Er mod i’n rhoi dŵr yn rheolaidd bob dydd mae’r dail wedi cyrlio ‘chydig ar ran fwyaf o’r planhigion – mae’r llyfrau’n dweud fall bod hyn yn  iawn – mae’r ffrwyth ar yr Agro yma i weld yn iawn, beth bynnag.

Agro

Leave a Comment

Mis yn ddiweddarch

Toms a dwr

Ma’r tomatos ‘ma i weld yn dod ymlaen yn iawn er dwi’n gorfod bod yn ofalus efo rhoi dŵr yn y tywydd yma. W edi rhoi sustem awtomatig mewn o’r diwedd sydd i’w weld ar hyd ganol y gwely. Falch mod i wedi prynnu ‘crop-bar’ ychwanegol i’r twnnel i dyfu petha mewn basgedi hefyd – gwneud y gorau o’r gofod. Nid cymylau sydd tu ôl i’r pigoglys yma – cysgod coed ar groen y twnnel.

Pigoglys Basged

Leave a Comment

Byw yn y Twnnel

ffesant2

Roedd rhywun yn son ddoe bod ffesantod yn partneru am oes.

Cymerodd dros dair wythnos i’r cennin egino – bydd rhaid i mi gofio hyn blwyddyn nesaf. Mae rhan fwyaf o’r petha’ a gafodd eu hau yn dod ymlaen yn dda – bydda ni’n bwyta radis cyn diwedd y mis efo dipyn o lwc. Mae’n amsar symud y tomatos ymlaen i botiau ‘chydig mwy a gorffan y gwely yn y twnnel. Cefais ddwy dunnell o bridd/compost ddoe o Dandys – o’dd fewnforio pridd yn teimlo ‘chydig yn od, ond dwi’n meddwl bysa wedi cymryd tua deng mlynedd i greu digon o gompost i lenwi’r gwelyau fel arall. Mae symud hwn i gyd i mewn i’r twnnel yn mynd i gadw fi’n brysur.

Mae’n dda gweld bod ‘Byw yn yr Ardd’ wedi cael ail gyfres. Mae ‘na  wefan newydd hefyd – diolch am y ‘linc’!

Leave a Comment

Jyst cwpl o lunia

letysabetys

tomsallan

O’dd y tomatos yn dod ymlaen yn dda yn y tŷ felly dwi di symud nhw i’r twnnel bora ‘ma i ddechra arfer gyda’r hinsawdd newydd. Debyg bod hi’n gynhesach yn y twnnel nac yn y tŷ yn y dydd, ond bydd rhaid i mi gofio dod a nhw i mewn bob nos am ‘chydig o ddyddia achos mae’n gallu mynd i lawr at tua 5C. Dwi’n meddwl bod hi’n eithaf anodd amseru’r tomatos yn iawn – gobeithio bod y rhain ddim yn rhy gynnar.

Wedi hau ddoe:
Courgette: Zucchini yn y tŷ
Ysgewyll: Seven Hills a Nautic yn y sied

Leave a Comment

Llanast

llanast

Yn trio cael ‘chydig o drefn ar y twnnel, dechra creu ‘beds’, er bod yr ieir dal yna! Dwi’m yn siŵr os di’r maeth maen nhw’n ei adael yn y tir yn gwneud i fyny am y llyngyr sy’n cael eu bwyta. Y rhes ar y dde ydi’r mefus wnes i blannu llynedd sydd bron wedi eu dinistrio – mae ‘na chydig o wyrddni yn dod i’r golwg fell gobeithio cawn nhw siawns no fuan efo’r ffensio’n digwydd dros y pythefnos nesaf.

Wedi ei hau ers tro diwethaf:
Ciwcymber Silor – yn y tŷ. (Dwi wedi trio dilyn canllawia Salt yn Growing Under Plastic – mae’n awgrymu peidio llenwi’r pot i ddechra ond ychwanegu compost ar ôl i’r planhigyn dyfu. Dwi’n cymryd mai ffordd o gael gwreiddiau cryf ydi hyn.)
Letys: Catalogna, Salad Bowl, Bughatti, Lobjoits Green CosOaklef.
Betys: Boltardy (mewn potiau yn y sied).
Pys: Kelvedon Wonder (ditto.).

Leave a Comment

Mafon (cynnar) a’r twnnel

Mae’r mafon yma yn barod i’w casglu (Autumn Bliss). Dydi nhw ddim i fod i ffrwytho tan yr Hydref. Debyg bod y gwanwyn poeth a’r glaw dros yr wythnosau diwethaf wedi eu drysu falla? Dwi heb fod yn garddio digon hir i wybod os mai jyst rwbath ‘one-off’ ydi hwn yntau arwydd arall o ‘global warming’.

Dwi wedi cael cychwyn araf eleni achos mod i wedi bod yn defnyddio amsar sbâr i gyd i baratoi a rhoi croen newydd ar y twnnel. Mae’r tomatos i gyd mewn potiau – dwi heb drio hyn o’r blaen. Heb osod y drysau ar y twnnel eto felly mae’r ieir (Melys yn y llun) yn crwydro mewn – yn edrych ar ôl y gwlithod ond yn bwyta peth o’r letys!

Leave a Comment