Archive for Uncategorized

Pigopigoglys

pigoglys

Ma’r dail ar y pigoglys yma’n dechra edrach fel bed dwi’n ei brynu o’r siop i fwyta fel salad. Dwi ‘rioed wedi tyfu y rhain o’r blaen a dwi’m yn siwr pryd i’w cymryd. Mae’r paced yn dweud i ddechra torri tua phythefnos/tair wsnos ar ôl iddyn nhw ddangos, ac yna disgwyl yddyn nhw ail dyfu. Mae’n annodd credu mai jyst tua 6 ddeilen sydd i fod i ddod o bob phlanhigyn – dim ond 8 nes i blannu! Falla na’i dorri hanner y planhigion a gweld be ddigwyddith i’r lleill.

topsoil

Ma’r twnnel yn barod ar gyfer y tomatos. Ar ben y pridd gwreiddiol, sy’n wael ond o leiaf yn rhoi dyfnder/draeniad, dwi wedi rhoi cardbord a tua 10cm o topsoil/compost – ma hyn yn ddyfnach na ‘growbag’ felly dylsa fod yn iawn. Dechra plannu nes ymlaen heddiw gobeithio.

Wedi hau:
Sweetcorn
Lamb’s lettuce
Mwy o fetys, roced, nionod gwanwyn, radis. Dwi wedi sylwi yn y gorffenol mod i weithia’n cael llwyddiant efo rhain  yn y gwanwyn ac yn anghofio hau mwy, felly eleni, dwi’n hau unwaith mae’r rhai sydd allan yn barod wedi  sefydlu.

Leave a Comment

Ddraenen Ddu

draenen-ddu-2

draenen-ddu

Mae’r patch llysiau yn segur ar hyn o’r bryd tra dwi’n sortio’r twnnel, er dwi’n gobeithio cael un rhes o welyau yn barod tu allan erbyn plannu cennin a bresych. Oeddem ni’n trio planio cael ‘chydig fwy o liw i mewn i’r ardd dros y penwythnos, ond bydd hi’n annodd creu unrhyw beth gwell na’r ddraenen ddu sy’n blodeuo ar hyn o’r bryd.

Wedi hau:
Ciwcymbr: Silor F1 yn y tŷ. Mae’r rhai sy’n tyfu’n barod yn dechra symud allan.
Tomatos: Tumbling Tom yn y tŷ. Mae’r tomatos eraill i gyd yn y twnnel rwan efo ‘fleece’ drostynt gyda’r nos.
Ffa Ffrengig: Blue Lake a Neckar Queen

Sylwadau (4)

Ymwelw(y)r

ffesant

Dyma fo’r ffesant sy’n galw’n amal dyddiau yma – dwi’n cymryd mai’r un un sy’n ymweld â’r ardd pob dydd. Mae’n helpu ei hun i fywyd yr adar llai bora ‘ma. Mae’r tywydd wedi troi, ond dwi’n sylwi, ar ôl prynu dau thermomedr newydd, fod tymheredd nos y twnnel yn uwch na’r sied yn barod. Falch o weld hyn achos ma’r tomatos bron yn barod i symud o’r tŷ.

Wedi eu hau/plannu:
Gwsberen newydd: Greenfinch
Mefus: Red Gauntlet
Brocoli: Early Purple Sprouting
Letys: Little Gem (Dwedodd y ddynes yn y siop bod ddim gwerth gyboli efo peth mor gyffredin!)

Leave a Comment

Minimaliaeth

Jyst cofnod minimal iawn o betha wedi eu hau bora ma i drio ail-gychwyn y plannu a’r blog: Tomatos Tumbling Tom, Gardener’s Delight, Alisa Craig, Harbinger, San Marzano, Agro. Wedi rhoi croen ar y twnnel llynedd ond, ers colli ieir i’r llwynog, mae’r tair sydd ar ôl wedi bod yn byw yna dros y gaeaf ac wedi creu llanast – dinistrio’r mefus a phopeth gwyrdd arall. Gobeithio gwneud ‘run’ mis yma i gael ieir allan a threfn yn y twnnel.

Leave a Comment

Yr amser iawn i dynnu ffa?

ffaffrenig.jpg

Gan fod ‘na ormod o blanhigion, nes i blannu rhai o’r rhain (Blue Lake) yn y polytunnel fer arbrawf – ma’ nhw mhell ymlaen o’r rhai tu allan. Maen nhw’n ymddangos bron bob nos syn gwneud hi’n anodd dal nhw cyn nhw fynd rhy fawr.

Yn plannu: mwy o letys, radis, ffa Ffrengig, bresych a gobeithio mwy o fetys, moron a phys os di’r glaw yn oedi.

Yn bwyta: tatws, y ffa ffrenig yma, y rhai arferol sydd yn y sosban hefyd, betys, tomatos (tumbler), letys.

Drwy alaw gwerin oedd rhywun yn chwara’ yma, dysgais yr enw Cymraeg am ‘fennel’, sef Ffaniglen, ond dwi dal ddim yn siŵr o hyn!

Leave a Comment

Pryd Cyntaf

prydcyntaf.jpg

Dim yn gwbod mod i’n licio ‘beetroot’ (betysen?) heb ei goginio tan heddiw.

Rhan fwyaf o betha’ wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, er bod ‘na chydig o olion pryfaid-du ar y ffa – plannu’n gynharach flwyddyn nesaf. Ma’r planhigion tomatos wedi eu bwydo efo danhadl poethion i’w gweld yn well na’r rhai efo bwyd ‘inorganic’ ond gwell disgwyl i weld a blasu’r ffrwythau.

Sylwadau (2)

Lot o chwynnu, llai o flogio

plotab-0507.jpg

Mae ‘na lot wedi ei blannu ers canol Ebrill, a llawer o wersi wedi eu dysgu.

1. Dim llawer o bwynt defnyddio hadau hen!

2. Dim pwynt trio tyfu letys rhy gynnar tu allan achos fydda nhw’n chwerw.

3. Mae nionod gwanwyn yn cymryd oesoedd i ddod i fyny ond yn cyrraedd gydag amynedd.

4. Dim pwynt hau ‘sweetcorn’ yn rhy gynnar os oes ‘na ddim lle yn yr ardd i’w plannu. Gobeithio bydd hi’n ddim rhy hwyr i ddilyn y ffa. Dwi’n trio peidio gadael y tir yn wag i osgoi chwyn cymryd drosodd – gobeithio dilyn y tatw newydd (sy’n dod ymlaen yn dda ar ôl y glaw) efo cennin a moron maincrop.

toms0507jpg.jpg

Am fod ‘na ddim ‘backlog’ o gompost blwyddyn yma dwi’n arbrofi gyda’r tomatos uchod (Moneymaker). Bwydo rhai yn y pen draw gyda stwff inorganic, a’r rhai agosâ gyda dalan poethion wedi eu rhoi mewn dŵr ers tua phythefnos. Basil sydd rhwng y planhigion tomatos achos gen i gof o ddarllen eu bod yn gymdogion da. Hefyd wedi plannu tomatos ‘eirin’ mewn gro-bags.

Digwyddiad trist iawn. Dros y penwythnos lladdwyd dwy o’r ieir gan gi. Llwyddodd drydydd (Myfanwy) i dorri’n rhydd ond yn anffodus gyda damwain i’w choes. Mae’n gwella’n araf da ni’n meddwl.

Leave a Comment

Mwy o hau a phlannu na sgwennu

Ffa wedi eu plannu allan – wedi ei dynnu gyda’r nôs i weld os oed ‘na unrhyw ‘predators’ o gwmpas.

ffa.jpg

Y diweddara: 30/3 pwmpen a chourgettes yn y tŷ, 31/3 rhiwbob (Victoria) 2/4 Un rhes o ffa Ffrengig (Opera) o dan cloche, sweetcorn (Kelvedon Glory) yn y polytunnel. Oedden ni wedi meddwl cadw petha’n syml eleni, ond bob tro dwi’n pasio hadau mewn siop, dwi’n gorfod prynu rhywbeth, felly dwi rŵan angen ffeindio lle i roi pannas. Mae’r ieir yn cael trafferth cyd-fyw ond wedi dechrau dydwy’n barod.

Pannas wedi eu hau (5/4). Mae rhai o’r tomatos wedi eu dinistrio (gwlithod?) felly’n hau mwy. 9/4 Cucumbers yn y ŷ, 10/4 un rhes o bys, 11/4 rhesi o foron (Starca a Amsterdam Forcing) rhwng y nionod sy’n dod ymlaen yn dda.

Leave a Comment

Gobeithio neith hwn weithio!

ffens.JPG

O’r diwedd – wedi cael rownd i osod hwn ddoe. Y plan rŵan ydi dechrau’i glirio hefo chydig o help gan yr i’r ieir.

Leave a Comment

Rhagarweiniad

llysiaublog.JPG

Dyma sut mae’r patch llysiau yn edrach pan mae’r cwningod yn cyrraedd, a dwi’n gadael lonydd iddo fo fynd ei ffordd ei hun. Er ei fod yn hyfryd, dwi isio’i ‘adfer’ erbyn blwyddyn nesaf – yn codi ffens wythnos nesaf gobeithio. Ar yr un pryd, dwi’n dechra’r dyddiadur yma, fel dyddiadur, a hefyd rhywle i drafod tyfu llysiau a phlanhigion eraill, trafod sut i osgoi cwningod a ‘pests’ eraill, gloywi iaith (dysgu’r gair am ‘pest’), a darganfod yr enwau ar y pethau rwyf heb eu hetifeddu – yr adar, y blodau, y chwyn… (h.y. heb etifeddu’r enwau nid y chwyn!)

Leave a Comment