Petha’n dechra o ddifri rwan!

tatws.JPG

I fyny at heddiw: 18/2 Ffa (Green Windsor) yn y polytunnel, bron yn barod i fynd allan. Moron (Amstersam Forcing) a nionod gwanwyn dan cloche. 20/2 Tomatos yn y tŷ (Tumbler/Moneymaker/San Mar) i gyd wedi dod fyny. 8/3 Nionod (Turbo) yn yr ardd – efo lle i roi moron rhwng y rhesi er mwyn dychryn y pryfaid gobeithio. 13/3 beetroot yn yr ardd. 23/3 Mwy o nionod gwanwyn. Heddiw – Cennyn (Musselburg) yn y Polytunnel, a chwech res o datw newydd (Homeguard).

Bob bore Sul, dwi’n codi a mae ‘na 4 bag mawr o gachu ceffylau tu allan i’r tŷ. Ma hyn yn beth da! Diolch Wendy.