Tomatos

Cneifiwr. Diolch yn fawr am dy eiriau caredig ar dy flog. http://cneifiwr-emlyn.blogspot.co.uk/2012/09/wales-blog-awards.html
Mae’r blog yma wedi bod yn cysgu am sbel. Dweud y gwir, be ddigwyddodd oedd bod i’n dechra’ sylwi’r eironi o eistedd yn fyma yn sgwennu am chwynnu yn lle mynd allan i ddelio efo’r llanast tu allan i’r ffenest.
Beth bynnag, y peth mwyaf cyffroes o ran tonnau’r haul wythnos yma, ydi mod i ddim yn poeni bod nhw ddim o gwmpas wsnos yma. Diolch i’r teclyn newydd, mae hi fel byw yn yr Eidal efo pentwr o ‘sundried tomatoes’ – tomatos sydd heb weld haul am wsnos.
Manylion technegol:
1. Tomato Principe Borghese. Hau mis Mawrth. Tyfu fel llwyni yn y twnnel ers tua mis Mai. Mae’r pecyn yn dweud bod tu allan yn iawn ond dwnim am Ynys Môn – arbrawf ar gyfer 2013.
2. Julie Diane Food Dehydrator.

Tomatos 2