Dros flwyddyn yn ddiweddarach… WordPress i weld yn gweithio ar y teclyn rŵan felly siawns o ail afael ar hwn.
Llwyddiant efo brocoli piws yn y twnnel.
Diolch i Iwan am y gair ‘shibwns’ am ‘spring onions’ ddoe. Defnydd yn y De debyg? Unrhyw un yn gyfarwydd efo enw gogleddol?
Croeso nol! ‘Sibols’ fyddwn ni’n ddefnyddio (ynganu: shibols). Brocoli piws wedi bod yn dda o’r rhandir yma hefyd; mi welis i rai ar werth ddoe am £7.50 y kilo! Mae rhoi mwy o le i dyfu pethau fel brocoli piws yn gwneud llawer mwy o synnwyr i mi na thatws ac ati. Pob hwyl efo’r teclyn.
Diolch. Mae dy flog yn ysbrydoliaeth, dw i wedi gweithio allan sut i ddilyn rŵan hefyd.
brocoli piws fan hyn yn Asturias hefyd – ond tu fâs asturiasyngymraeg.wordpress.com/2014/04/11/or-ardd-llysiau-lliw/
Pob lwc efo’r darn o dir newydd!