
Cennin (Bandit) Hau canol Mawrth yn y sied mewn potiau a symud allan diwedd Ebrill. Di llawer o fynd tan Mehefin a phlannu allan diwedd Mehefin.
Shallots Sets wedi rhoi mewn wythnos yma. Modfedd o gompost ardd.
Ffa (Aguadulce) Hau yn y twnnel rhywbryd diwedd 2020 ond fe aeth y twnnel! Modfedd o gompost ardd.
Heddiw
Hau Aubergine (Black Beauty) mewn propagator yn y conserfatori. Wnes i ddim hau tan Mawrth llynedd ac roedd hyn rhy hwyr o lawer er mwyn i’r planhigion aeddfedu mewn pryd.
Croeso’n ôl! Tymor tyfu Stiniog yn rhy fyr i aubergines!
Wyt ti am roi croen newydd ar y twnal?
Diolch! Dwi’m yn siŵr sut wneith yr Aubergines yn fyma dweud y gwir. Ddim llawar o lwyddiant llynadd ond wedi dechra’n gynt eleni. Hefyd, clywais bod angen help efo brwsh paent ar y blodau a wnes i ddim gwneud hyn. Gobeithio cael croen ar y twnal mis yma. Pob lwc efo’r tyfu eleni!