
Wedi plannu’r tomatos dros y penwythnos, a blodau (Tagetes, Nasturtiums, Marigold, Poaced-Egg Plants) wrth ddrysau’r twnnel. Mae ‘na 5 math o domato yn y pridd ( Gardener’s Delight, Alisa Craig, Harbinger, San Marzano, Agro), a Tumbling Tom’ yn y bwcedi sy’n hongian ar y dde. O ni’n trio cael lliw er mwyn osgoi’r lle fod yn hollol iwtilitariaidd ond mae blodau’n bwysig er mwyn dennu cacynod, wrth gwrs (neu, gwenyn falla? Cacwn ydi ‘bee’ yn rhan yma o Sir Fôn beth bynnag, ond debyg mai ddim cacynod ydi’r lluosog!)
Dwi wedi bod yn ystyried cadw cacynod ers tro, ond ar ol gwylio ‘Who Killed the Honey Bee‘ ar BBC4 wsnos diwethaf, mae’n dechra teimlo fel dyletswydd. Ar ôl ‘chydig o syrffio dwi wedi darganfod bod ‘na grŵp o bobol yn cadw cacynod ar yr Ynys, felly dwi’m mynd i drio holi nhw am ba mor annodd ydi hyn.