Twnnel Truenus

Mae’r twnnel wedi para tua 12 mlynedd sydd yn anhygoel. Clirio’r gwlau heddiw – pridd mewn cyflwr da ar ôl cael socian go iawn efo’r to wedi mynd.

Blwyddyn Newydd Dda

Cennin (Bandit) Hau canol Mawrth yn y sied mewn potiau a symud allan diwedd Ebrill. Di llawer o fynd tan Mehefin a phlannu allan diwedd Mehefin.

Shallots Sets wedi rhoi mewn wythnos yma. Modfedd o gompost ardd.

Ffa (Aguadulce) Hau yn y twnnel rhywbryd diwedd 2020 ond fe aeth y twnnel! Modfedd o gompost ardd.

Heddiw

Hau Aubergine (Black Beauty) mewn propagator yn y conserfatori. Wnes i ddim hau tan Mawrth llynedd ac roedd hyn rhy hwyr o lawer er mwyn i’r planhigion aeddfedu mewn pryd.

Tomatos a broga

San Marzano a phedwar Gardener’s Delight. Wedi rhoi cardbord dros y gwely yma dros y gaeaf – pan wnes i godi’r cardbord roedd brogaod (llyfantod os yda chi dros Bont Borth debyg) yn mhob man. Dyna pam dwi wedi cadw llanast yng nghanol y gwely i drio rhoi ‘chydig o gartref iddyn nhw. Heblaw mod i ddim isio dinistrio’i cynefin yn llwyr, maen nhw’n bwyta gwlithod, dydyn?

Blodau/Cacwn

Ddim yn realistig i mi lenwi hwn efo llysiau eleni felly, blodau…a chacwn gobeithio. Gobeithio wnawn nhw weithio fel ‘green manure’ (gwrtaith gwyrdd?) hefyd.

Ail-feddiannu’r patsh

Cama cyntaf wrth drio ail-feddiannu’r darn o dir ar waelod yr ardd. Mae’r pridd yn pH 6.0 ar rhan fwyaf o’r dran felly fydd rhaid delio efo hwnnw dros y gaeaf. Yn dechra efo nionod yn y gornal yma: tua 90 Turbo a 3 berfa o compost cartra. Erioed wedi trio tyfy nhw drwy’r ‘membrane’ yma o’r blaen, ond dylsa helpu efo’r chwyn. 

Deffro

Heb bostio ar hwn ers oesoedd! Mi dria i eto…

IMG_2009.JPG

Mefus (hen a newydd)

20140522-072528-26728014.jpg
Mefus newydd (Christine, Flamenco, Malwina, Sweetheart) yn setlo mewn – tynnu’r blodau eleni. Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer gan yr hen blanhigion ‘Aromal?’ ond mae petha’n edrych yn addawol yn fyma:

20140522-074348-27828770.jpg
Mae’n od fel mae atgofion yn cysylltu yn y cof. Mae’n amhosib i mi wahaniaethu’r profiad o fwyta’r brechdan jam mefus gyntaf efo mefus o’r ardd, a chic rydd Stoichkov yn erbyn yr Almaen yn 1994 Gôl

Diogi?

Mi wnes i ddweud hwyl fawr i’r drysa’ ar ôl stormydd mawr y gaeaf.

20140516-153118.jpg
Roeddwn i’n bwriadu gosod rhai newydd dros y penwythnos ond yn dechra meddwl os oes angen. Dwi’n cymryd mai prif bwrpas y drysau ydi osgoi newid mawr rhwng tymheredd y dydd a’r nos, ond, mae planhigion fel tomatos a chiwcymbars yn tyfu tu allan mewn gwledydd efo newidiadau mawr mewn tymheredd dydd/nos. Diogi pia hi dwi’n meddwl… neu falla mod i wedi methu rhywbeth.

Compost Di-fawn

Rwy’n trio tyfu pupur a phlanhigion wynyn y twnnel eleni. Os wedi dallt petha’n iawn, mae’r rhain yn perthyn i’r teulu tomatos. Mae’r borderi yn llawn o blanhigion tomatos felly rhaid i’r pupur/planhigion wy dyfu mewn potia.

20140512-213237.jpg

Rwy’n trio osgoi compost efo mawn ond mae problem efo’r un yma – dydi o ddim i weld yn dal dŵr o gwbl. Mae’r dŵr wedi bod ‘mlaen am ‘chydig o funudau yma ac mae ‘na fwy o dan y pot nac yn y compost.

Golygfa Hyfryd

20140419-190027.jpg

Newydd droi’r domen sydd wedi bod yn gwneud ei gwaith dros y gaeaf. Wedi dechra cael system o’r diwedd. Rysait rhywbeth fel hyn:
Haen tua 10 cm o dail ceffylau.
Haen tebyg o chwyn ayyb.
Haen tebyg o groen llysiau a ballu o’r gegin (dim byd wedi ei goginio) a darnau o bapur a chardbord wedi eu rhwygo…ayyb, ayyb, ayyb, tan oedd y domen tua 1.5 m x 1.5 m x 1.5 m… a ‘chydig o ‘accelerator’ personol yn achlysurol.